Rhif y ddeiseb:

P-06-1391

 

Teitl y ddeiseb:

Dylid rheoleiddio'r sector steilio cŵn, er mwyn diogelu lles cŵn a hawliau perchnogion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym o’r farn y byddai sefydlu canllawiau clir, gofynion trwyddedu a safonau yn y diwydiant yn helpu lles a diogelwch cŵn yn ystod triniaethau steilio. Nid oes fframwaith rheoleiddiol ar gyfer y sector, boed hynny ar lefel awdurdod lleol neu genedlaethol. Nid yw'n dod o fewn goruchwyliaeth unrhyw elusen na'r RSPCA.

Yn ystod y tair blynedd diwethaf gwelwyd twf mawr ym mherchnogaeth cŵn a'r busnesau sy'n diwallu eu hanghenion. Mae'n hen bryd sefydlu safonau.

1. Lles Anifeiliaid: Mae'n hanfodol blaenoriaethu lles cŵn a’u trin yn drugarog.          Bydd rheoleiddio yn hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol, yn lleihau lefelau straen, ac yn lleihau niwed/anafiadau posibl a achosir gan steilwyr esgeulus neu anghymwys.

2.Hyfforddiant/Ardystio: Mae steilio cŵn heb ei reoleiddio wedi arwain at unigolion anhyfforddedig yn gweithredu heb y wybodaeth angenrheidiol am anghenion bridiau penodol, arferion hylendid, neu weithdrefnau trin a steilio. Dylai meddu ar safon ofynnol o Gymorth Cyntaf Anifeiliaid fod yn elfen ragofynnol.

3. Iechyd a diogelwch: Canllawiau iechyd a diogelwch gofynnol i gynnal amgylchedd diogel. Camau glanweithdra cywir, cynnal a chadw offer a chydymffurfio â phrotocolau hylendid, sy'n hanfodol wrth atal lledaeniad heintiau / parasitiaid / clefydau.

4. Trwyddedu / Archwilio: Hyfforddiant/ardystiad yswiriant a chydymffurfio â rheoliadau iechyd a diogelwch.

5. Gosod safonau: Mae rheoleiddio'n cynnig sicrwydd safonau i berchnogion drwy nodi pa ymarferwyr sy’n gymwys.

 


1.        Y cefndir

Ar hyn o bryd nid oes dim rheoliadau penodol ar gyfer sefydliadau steilio cŵn yng Nghymru. Mae unrhyw sefydliad o'r fath yn gyfrifol am les yr anifeiliaid sydd yn ei ofal o dan ddarpariaethau cyffredinol y Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Rhaid iddo ddiwallu pum angen lles yr anifeiliaid bob amser:

§    o ran amgylchedd addas; 

§    o ran deiet addas; 

§    i fedru arddangos patrymau ymddygiad normal; 

§    cael eu cadw gydag anifeiliad eraill, neu ar wahân iddynt; ac 

§    i gael eu hamddiffyn rhag poen, dioddefaint, anaf a chlefyd. 

Mae Cod Ymarfer er Lles Cŵn gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys 'dyletswydd gofal', ond nid oes ynddo ganllawiau sy'n benodol ar gyfer steilwyr cŵn.

Mae'r elusen The Dog's Trust wedi galw am i’r Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Trwyddedu Gweithgareddau sy'n Ymwneud ag Anifeiliaid) Cymru 2021 gael eu hymestyn i gynnwys steilio cŵn, y mae’n dweud a “allai gael effaith ddifrifol ar les cŵn”.

2.     Camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru

Er nad oes unrhyw gynlluniau i drwyddedu sefydliadau trin cŵn o dan Gynllun Lles Anifeiliaid cyfredol Llywodraeth Cymru (2021-2026), mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i:

Ddatblygu model cenedlaethol ar gyfer rheoleiddio lles anifeiliaid, gan gyflwyno cofrestr ar gyfer sefydliadau lles anifeiliaid, bridwyr masnachol anifeiliaid anwes neu anifeiliaid ar gyfer saethu, ac arddangosfeydd anifeiliaid.

Wedi hynny, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar drwyddedu sefydliadau lles, gweithgareddau ac arddangosfeydd anifeiliaid rhwng 8 Rhagfyr 2023 a 1 Mawrth 2024.

Roedd yr ymgynghoriad yn eang ac yn gofyn am farn ar y posibilrwydd o gyflwyno trwyddedu ar gyfer gwasanaethau steilio cŵn, ymhlith nifer o weithgareddau eraill.

Ysgrifennodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd atoch ynglŷn â’r ddeiseb hon, gan dynnu sylw at ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu a’r ymgynghoriad cysylltiedig â hi. Dywedodd y byddai ei swyddogion yn ystyried canfyddiadau'r ymgynghoriad.

3.     Camau a gymerwyd gan Senedd Cymru

Nid yw Ymchwil y Senedd yn ymwybodol bod y mater penodol hwn wedi’i godi yn y Senedd yn ddiweddar.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.